AneurinJONESYr Arlunydd Ar 25ain o Fedi 2017, hunodd Aneurin. Priod annwyl Julie (am dros 52 o flynyddoedd), tad cariadus a chefnogol Meirion a Meinir, tad yng nghyfraith a chyfaill mynwesol Gwynedd a Joanna, a thad-cu tyner a gofalgar Ifan Sion, Tomos Rhys a Deio Aneurin. Brawd, brawd yng nghyfraith ac ewythr hoff. Gwasanaeth angladdol cyhoeddus yn Amlosgfa Parc Gwyn, Arberth, Dydd Sadwrn 7fed Hydref am 12.15 o'r gloch. Dim blodau ond derbynnir cyfraniadau er cof os dymunir i Diabetes UK Cymru trwy law Mr. D. A. E. Peregrine, Gorwel, Ffordd Aberystwyth, Aberteifi, SA43 1LU.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Aneurin